ARABLE PLANT WALK
LLWYBR TROED PLANHIGION ÂR
Slade Farm is proud to be part of the Nature Network Fund, a Welsh Government initiative delivered by the National Lottery Heritage Fund.
This fund supports projects that protect and restore Wales’ most important habitats and species. At Slade Farm, we’re using this opportunity to bring back some of our most threatened native wildlife – including rare arable plants that were once common in traditional farming landscapes.
Many arable plants have declined dramatically due to modern agricultural practices. These plants thrive in disturbed, low-input soils and are vital for supporting a wide range of insects, birds, and other wildlife.
With the help of the Nature Network Fund, we’re managing fields specifically to encourage their return, by not using chemical inputs, carefully timing cultivation, and creating fallow margins. Thank you for visiting and being part of our effort to give these precious species a home once again.
Mae Slade Farm yn falch o fod yn rhan o'r Gronfa Rhwydwaith Natur, menter Llywodraeth Cymru a gyflwynir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae'r gronfa hon yn cefnogi prosiectau sy'n amddiffyn ac yn adfer cynefinoedd a rhywogaethau pwysicaf Cymru. Yn Slade Farm, rydym yn defnyddio'r cyfle hwn i ddod â rhywfaint o'n bywyd gwyllt brodorol sydd fwyaf dan fygythiad yn ôl – gan gynnwys planhigion âr prin a oedd unwaith yn gyffredin mewn tirweddau ffermio traddodiadol.
Mae llawer o blanhigion âr wedi dirywio'n sylweddol oherwydd arferion amaethyddol modern. Mae'r planhigion hyn yn ffynnu mewn priddoedd wedi'u troi, mewnbwn isel ac maent yn hanfodol ar gyfer cynnal ystod eang o bryfed, adar a bywyd gwyllt arall.
Gyda chymorth y Gronfa Rhwydwaith Natur, rydym yn rheoli caeau yn benodol i’w hannog i ddychwelyd, trwy beidio â defnyddio mewnbynnau cemegol, amseru tyfu'n ofalus, a chreu ymylon braenar. Diolch i chi am ymweld ac am fod yn rhan o'n hymdrech i roi cartref i'r rhywogaethau gwerthfawr hyn unwaith eto.
You are on Slade Farm Organics’ Arable Walk!
Rydych chi ar Lwybr Troed Âr Slade Farm Organics!
Can you spot these ?
Allwch chi weld y rhain?
Common Fumitory
A delicate annual arable plant, recognisable by its finely divided, fern-like leaves and small pink to purple flowers with dark tips, it typically blooms from spring to early autumn. It has a long history of use in herbal medicine, particularly for liver and digestive health.
Mwg y Ddaear
Planhigyn âr blynyddol cain, sy'n adnabyddadwy gan ei ddail mân, tebyg i redyn, a'i flodau bach pinc i borffor gyda blaenau tywyll, mae fel arfer yn blodeuo o'r gwanwyn i ddechrau'r hydref. Mae ganddo hanes hir o ddefnydd mewn meddygaeth lysieuol, yn enwedig ar gyfer iechyd yr afu a'r system dreulio.
Field Madder
A low-growing annual plant, easily recognised by its whorled leaves and small, star-shaped, pale pink to lilac flowers that bloom from spring to early summer. It's ground cover that helps reduce soil erosion.
Mandod Las yr Ŷd
Planhigyn blynyddol sy'n tyfu'n isel, sy'n hawdd ei adnabod gan ei ddail troellog a'i flodau bach, siâp seren, pinc golau i lelog sy'n blodeuo o'r gwanwyn i ddechrau'r haf. Mae'n orchudd daear sy'n helpu i leihau erydiad pridd.
Blue Scarlet Pimpernel
It is a variant of the more common scarlet pimpernel, but is distinguished by its striking deep blue flowers with red or purple centres, which open only in sunlight. The plant has small, ovate leaves arranged in opposite pairs along square stems and typically flowers from late spring to early autumn.
Gwlyddyn Mair Benyw
Mae'n amrywiad o'r gwlyddyn Mair Gwryw mwy cyffredin, ond mae'n cael ei wahaniaethu gan ei flodau glas tywyll trawiadol gyda chanol coch neu borffor, sy'n agor yng ngolau'r haul yn unig. Mae gan y planhigyn ddail bach, wyffurf wedi'u trefnu mewn parau gyferbyn ar hyd coesynnau sgwâr ac fel arfer mae'n blodeuo o ddiwedd y gwanwyn i ddechrau'r hydref.
SLADE FARM ORGANICS
Slade Farm Organics is a tenanted, family farm situated on the Glamorgan Heritage Coast. Our mission is to farm with nature and our local community, and deliver truly sustainable produce throughout the year.
Fieldwork Studio is a Community Interest Company based at Slade Farm Organics.
Our work aims to work with our local community to foster the understanding and advance education across farming, ecology and healthy eating.
Mae Slade Farm Organics yn fferm deuluol dan denantiaeth wedi'i lleoli ar Arfordir Treftadaeth Sir Forgannwg.
Ein cenhadaeth yw ffermio gyda natur a'n cymuned leol, a darparu cynnyrch gwirioneddol gynaliadwy drwy gydol y flwyddyn.
Mae Fieldwork Studio yn Gwmni Buddiant Cymunedol wedi'i leoli yn Slade Farm Organics.
Nod ein gwaith yw gweithio gyda'n cymuned leol i feithrin dealltwriaeth a hyrwyddo addysg ar draws ffermio, ecoleg a bwyta'n iach
This programme is generously supported by Nature Networks Fund, strengthening the resilience of Wales’ network of protected land and marine sites.
Cefnogir y rhaglen hon yn hael gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, gan gryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig.